Woman interviewing someone
Leadership and teamwork

Adeiladu cymuned seicoleg

Mewn cyfweliad â Changen Cymru, mae ei chadeirydd newydd yn sôn am ei huchelgais yn y rôl a mwy...

27 February 2023

Share this page

Cangen Cymru BPS: Helo a chroeso i'n Cadeirydd newydd, Dr Sharon Davis!

Sharon: Shw mae pawb!

Rydyn ni wedi bod wrth ein bodd yn dod i'ch adnabod chi dros y blynyddoedd. Allwch chi ddweud ychydig bach mwy wrth ein haelodau amdanoch chi? Dechreuwch gyda'ch cefndir academaidd efallai?

Rydw i'n seicolegydd siartredig. Roedd fy ngradd gyntaf o Goleg Goldsmiths yn Llundain. Yna, es i Brifysgol Caerdydd i wneud MSc mewn Seicoleg Alwedigaethol (rhagoriaeth) ac wrth ddechrau fy noethuriaeth yng Nghaerdydd, priododd fy ngoruchwyliwr a symudodd i Ganada.

I ddod o hyd i oruchwyliwr a ddeallai fy ymchwil, symudais i Brifysgol Swydd Gaerloyw i gwblhau fy PhD (diolch i'r Athro Graham Edgar a'r Athro Di Catherwood). Taith ddiddorol yn sicr, ond antur werth chweil.

Sut byddech chi'n disgrifio eich dull gweithio nawr?

Rwy'n ystyried fy hun yn ymchwilydd dulliau cymysg y mae ei safiad epistemolegol ac ontolegol ar ymchwil (yn union fel fy mywyd gwaith) yn un o bragmatiaeth. Fel ymchwilydd cymwysedig, gan weithio mewn sefyllfaoedd gwaith go iawn, mae dod o hyd i'r dull cywir ar gyfer yr adeg iawn ar yr amser iawn gyda'r cyfranogwyr iawn bob amser yn densiwn diddorol.

Yr oedd fy ymchwil ddiwethaf yn edrych ar y broses o wneud penderfyniadau ynghylch defnyddio peiriant cardiotocograff wrth eni babanod gan geisio darganfod pam y gall bodau dynol, ar brydiau, fod yn annibynadwy yn y broses hon.

Mae hynny'n hynod o ddiddorol, diolch i chi am rannu Sharon. Ydych chi'n dal i ymwneud ag academia heddiw?

Yn bendant - Mae fy angerdd a'm diddordeb mewn seicoleg yn para yn fy mywyd darllen, fy ngwaith ysgrifennu a'm bywyd gwaith. Rwy'n uwch ddarlithydd yn y Brifysgol Agored yng Nghymru ac mae gen i hefyd rôl fel tiwtor staff.

Mae'r rôl hon, yn benodol i'r Brifysgol Agored, yn golygu ein bod yn gyfrifol am y myfyrwyr seicoleg ar draws pob lefel o astudio yn y Brifysgol Agored yng Nghymru, y darlithwyr cyswllt sy'n tiwtora'r myfyrwyr yn uniongyrchol, yn cysylltu â'r timau cymorth i fyfyrwyr ac yn rhan o'r timau academaidd canolog sy'n datblygu ac yn ysgrifennu'r deunyddiau a'r llyfrau ar gyfer y modiwlau ar ein cyrsiau seicoleg a gradd cwnsela a'r rhith-amgylcheddau dysgu.

Fi yw cadeirydd modiwl traethawd hir BPS blwyddyn olaf y mae dros 2,500 o fyfyrwyr yn ei astudio. Mae hyn yn cynnig amrywiaeth o bynciau diddorol i weithio gyda nhw. Dydy bywyd byth yn ddiflas, a pham y byddai hi felly pan fyddai'n ymwneud â seicoleg.

Mae bod yn rhan o'r tîm yng Nghymru yn rhoi swydd unigryw a breintiedig i mi weithio gyda phrifysgolion eraill yng Nghymru yn ogystal â chyflogwyr a busnesau.

Ni allwn gytuno mwy. Dywedwch wrthym am eich cysylltiad â'r BPS a beth rydych chi'n edrych ymlaen at ei wneud fel Cadeirydd Cangen Cymru BPS?

Rwyf wedi bod yn aelod o Gymdeithas Seicolegol Prydain ers dros 20 mlynedd a byddwn wrth fy modd yn dod â Changen Cymru Cymdeithas Seicolegol Prydain i gynrychioli ein cymuned seicoleg yng Nghymru.

Mae cymaint o dalent a phobl ddiddorol o bob agwedd ar y gymuned seicoleg, efallai y byddwn yn gwneud gwahanol swyddi, ond rydym i gyd wrth ein bodd â seicoleg. Ni fyddwn byth yn brin o rywbeth i siarad amdano.

Mae hyn yn rhywbeth rwy'n awyddus iawn i weithio arno yn y dyfodol. Gweithio gyda'n gilydd fel cymuned, gan ddod â'n hyfforddeion, ein hadrannau, ein myfyrwyr, ein cyflogwyr a'n prifysgolion at ei gilydd i adeiladu'r gymuned seicoleg hon.

Bydd ein myfyrwyr-lysgenhadon newydd yn ychwanegu at hyn ac edrychaf ymlaen at eu gweld yn rhan annatod o'n tîm. I drafod arferion da a rhannu ymchwil a buddiannau yn gyffredinol. Ein hyfforddeion a'n myfyrwyr yw ein seicolegwyr yn y dyfodol. 

Mae'n swnio'n wych. A oes rhywbeth y dylem gadw llygad arno yn benodol eleni?

Oes - cadwch y dyddiad os gwelwch yn dda: 10 Mehefin 2023 yn Abertawe, ein cynhadledd i fyfyrwyr a hyfforddeion. Gwyliwch y gofod hwn hefyd gan ein bod yn gobeithio dechrau cyfres o sgyrsiau diddorol i arddangos cyfoeth a dyfnder seicoleg yng Nghymru a'r ymchwil sy'n cefnogi hyn.

Mae yn y dyddiadur! Unrhyw eiriau olaf i'n haelodau?

Rwy'n llawn cyffro ac yn freintiedig o gynrychioli a chadeirio Cangen Cymru o'r BPS, diolch i chi am y cyfle hwn.

Diolch Sharon a chroeso!

 

Read more on these topics