Am Gangen Cymru
Ar hyn o bryd mae gan Gangen Cymru tua 1600 o aelodau sydd ar daen yn eang trwy hyd a lled Cymru ond â'r prif grwpiau o gwmpas y trefi a'r dinasoedd mawr.
Mae pwyllgor Cangen Cymru yn cynnwys cynrychiolwyr o bob cwr o Gymru. A wnewch chi glicio yma am fanylion cysylltu aelodau'r Pwyllgor.
Mae Cymdeithas Seicolegol Prydain wedi cytuno i sefydlu swyddfeydd yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru i adlewyrchu datganoli grym. Mae Swyddfa Cangen Cymru wedi'i sefydlu ac mae ganddi weinyddwr (Helen Taylor). Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau mae croeso i chi gysylltu â hi:
Helen Taylor
Cynghorwr i Gymru
Gwasanaethau Rhwydwaith Aelodau
Cymdeithas Seicolegol Prydain
Room C003
Campws Colchester Avenue
UWIC
Caerdydd
CF23 9XR
E-bost: wales@bps.org.uk
Tel: 02920 417008
Gweithgareddau Cangen CYmru
Cynhadledd Flynyddol y Myfyrwyr - Mae'r gangen yn trefnu cynhadledd myfyrwyr flynyddol, fel arfer tua chanol hyd ddiwedd mis Ebrill. Mae'r themâu yn eang eu cwmpas er mwyn denu cynifer o gynadleddwyr ag y bo modd.
Gwobrau Myfyrwyr - Mae'r Gangen yn dyfarnu gwobrau BPS bob blwyddyn i fyfyrwyr o Brifysgolion Cymru.
Cyfarfodydd Gwyddonol - Mae'r Gangen yn cynnal nifer o gyfarfodydd gwyddonol trwy'r flwyddyn gron.
Cefnogi Gweithgareddau'r Aelodau - Mae'r Gangen yn yn ystyried cefnogi aelodau yn un o'i swyddogaethau craidd. Rydym felly'n awyddus iawn i roi help llaw i'r aelodau wrth y gwaith o drefnu a hysbysebu seminarau a chynadleddau yng Nghymru, a gallwn hefyd - o fewn rhai terfynau - helpu i noddi cyfarfodydd o'r fath o'n cronfeydd.
|