You have now left the main British Psychological Website - return to the main site >>
Back to this sites home Back to the Main BPS Site
Home
Welsh
 Cangen Cymru Cymdeithas Seicolegol Cymru
 Cyfarfodydd Gwyddonol Cangen Cymru
 Y Seicolegydd yng Nghymru
 Bwrsariaethau
 Cysylltiaid Pwyllgor:
About the Welsh Branch
Welsh Branch Committee Contacts
Scientific Meetings of the Welsh Branch
The Psychologist in Wales
Criteria for Student Bursaries
Annual Student Conference
Annual General Meeting
National Eisteddfod of Wales
Capacity to Make Decisions and the Mental Capacity Act
Return to Main BPS Site
You Are Here: Home > The Welsh Branch > Welsh > Bwrsariaethau
 
 

Bwrsariaethau

   

Yn ogystal â threfnu cyfarfodydd gwyddonol a chynadleddau, cynrychiolaeth seicolegwyr Cymreig mewn cyfarfodydd Cenedlaethol, a dosbarthu deunyddiau perthnasol drwy Y Seicolegydd yng Nghymru, y mae Cangen Cymru hefyd yn dosbarthu bwrsariaethau. Isod, ceir y canllawiau ar gyfer adolygiad y pwyllgor am geisiadau am fwrsariaethau myfyrwyr a bwrsariaethau 'caledi'.

  • Rhaid i bob ymgeisydd fod yn aelod neu'n danysgrifiwr myfyriwr CSP ac yn astudio seicoleg mewn sefydliad Cymreig neu gangen Gymreig sefydliad cenedlaethol.
  • Ystyrir bob cais yn ôl ei deilyngdod. Sut bynnag, bydd cyllideb gyfyngedig ar gyfer bwrsariaethau bob blwyddyn, i'w gytuno'n flynyddol gan y pwyllgor: ar gyfer 2005/ 2006 ni fydd y gyllideb hon yn mynd dros £900. Yr uchafswm ar gyfer bwrsariaeth unigol ar hyn o bryd yw £200.
  • Fel arfer, penderfynir arni gan Bwyllgor Cangen Cymru; sut bynnag, mewn amgylchiadau eithriadol, wrth ymgynghori â'r Ysgrifennydd / Trysorydd Mygedol, bydd y Gadair yn gweithredu ar ei liwt ei hun. Y mae amgylchiadau eithriadol yn cynnwys diffyg cyfarfod pwyllgor o fewn amserlen fydd yn peri anfantais i'r myfyriwr.
  • Rhoddir bwrsariaethau er mwyn cyfrannu at gost cynadleddau, gweithdai, cyrsiau neu ymweliadau sydd yn berthnasol i astudiaethau'r myfyriwr, yn enwedig ei ddiddordebau traethawd / ymchwil, neu sydd yn ymwneud â thechnegau cynllunio ymchwil neu ddadansoddiad data. Rhoddir y flaenoriaeth i fyfyrwyr sydd yn cyflwyno mewn cyfarfod, neu a all ddangos perthnasedd uniongyrchol at eu gwaith.
  • Dylai ymgeiswyr allu dangos eu bod wedi gwneud pob ymdrech rhesymol arall er mwyn ennill nawdd ariannol (e.e. oddi wrth ei adran / ei hadran). Fel arfer, ni fyddai ôl-raddedigion â chefnogaeth y Cynghorau Ymchwil sydd yn derbyn cymorth ariannol i fynychu cynadleddau yn ymgeiswyr ar gyfer bwrsariaethau.

Y drefn ar gyfer ceisio am fwrsariaeth yw i'r ymgeisydd gyfeirio llythyr ar Gadair y Gangen:

  • Gan ddatgan manylion y gynhadledd / gweithdy / ymweliad gan gynnwys costau
  • Yn dangos cymhwyster fel aelod / tanysgrifiwr myfyriwr CSP
  • Yn esbonio sut y mae mynychu'r cyfarfod yn perthyn i'w astudiaethau
  • Yn dangos pa ffynonellau nawdd eraill sydd ar gael
  • Yn dangos cefnogaeth tiwtor lle mae'n astudio
  • Yn cytuno darparu derbynebau i drysorydd y Gangen

Mewn amgylchiadau eithriadol bydd y pwyllgor yn ystyried ceisiadau ar gyfer bwrsariaethau 'caledi'. RHAID cefnogi ceisiadau felly gan DDAU aelod staff y sefydliad perthnasol, ac ystyrir yn unig os gall y myfyriwr ddangos yn glir y byddai'r fwrsariaeth yn gwneud gwahaniaeth sylfaenol i allu'r myfyriwr i gwblhau ei astudiaethau. Dylid anfon llythyr at Gadair y Gangen.

  • Gan amlinellu pwrpas y cais am gefnogaeth ariannol
  • Yn dangos sut y byddai'r fwrsariaeth yn gadael i'r myfyriwr gwblhau ei astudiaethau
  • Yn dangos pa ffynonellau nawdd eraill y mae wedi ei chwilio amdanynt
  • Cefnogaeth gan DDAU diwtor lle mae e'n / hi'n astudio.

 
Text Only | Contact Details | Privacy | Legal | Accessibility | Feedback | Help
^ Top of Page